firefox-ios-firefox-browser

Cyflymu'r rhyngrwyd gyda Firefox Android

Gweld eich holl dabiau agored, chwilio diweddar a'ch hoff wefannau i gyd mewn un lle gyda phorwr Firefox Android.

Ei gael o Google Play

Cael Firefox Android

Sganiwch y cod QR i gychwyn

Sganiwch y cod QR i gael Firefox ar Android

Cyflym a Phreifat

Mae Firefox ar gyfer Android yn darparu diogelwch preifatrwydd rhwydd gyda llwytho tudalennau cyflym. Mae Diogelwch Uwch rhag Tracio'n rhwystro tracwyr ar-lein yn awtomatig rhag eich dilyn o amgylch y we ac arafu agor eich tudalennau.

Un tap i'r modd preifat

Ewch i'r Modd Pori Preifat gyda dim ond un tap. A phan fyddwch yn cau'r Modd Pori Preifat, mae eich hanes pori yn cael ei ddileu o'ch dyfais yn awtomatig.

Chwilio yn eich ffordd eich hun

Oes gennych chi ffôn mawr a bodiau maint arferol? Dim problem. Mae Firefox Android yn caniatáu i chi symud y bar chwilio o'r brig i'r gwaelod gan ei gwneud hi'n haws ei ddefnyddio gydag un llaw. Gallwch hefyd ddewis eich peiriant chwilio eich hun o fewn y porwr, a gosod Firefox fel eich porwr rhagosodedig, os hoffech chi.

Arbedwch bŵer gyda'r Modd Tywyll

Newidiwch i'r Modd Tywyll ar unrhyw adeg i leihau straen ar y llygaid ac ymestyn pŵer eich batri.

Creu eich sgrin eich hun

Mynd i'ch hoff rannau o'r rhyngrwyd yn gynt. Dewiswch weld eich holl dabiau agored, chwilio diweddar, nodau tudalen a'ch hoff wefannau i gyd mewn un lle.

Grymuso Firefox gydag Ychwanegion

Mae ychwanegion fel offer bach pwerus y gallwch eu hychwanegu at eich porwr i wneud pethau fel cynyddu eich gosodiadau preifatrwydd rhagosodedig a chyfaddasu eich profiad.

Ailgychwyn o le roeddech chi ddiwethaf

Ewch o'ch ffôn i'ch gliniadur, tabled ac yn ôl heb golli dim. Gyda Firefox ar eich holl ddyfeisiau, gallwch fynd â'ch nodau tudalen, cyfrineiriau, mewngofnodion wedi'u cadw a'ch hanes pori i ble bynnag yr ewch chi.

Chwilio o sgrin gartref eich ffôn

Nid oes angen agor yr ap. Ychwanegwch y teclyn chwilio Firefox a chwiliwch y we yn uniongyrchol o sgrin gartref eich dyfais.

Piniwch fideos i'ch sgrin

Agorwch fideos o'u gwefannau neu chwaraewyr a'u pinio i frig sgrin eich ffôn i'w gwylio wrth i chi syrffio'r we a gwneud pethau eraill. Difyrrwch wrth amldasgio.

Ynghylch Mozilla

Mae Mozilla yn bodoli i adeiladu'r Rhyngrwyd fel adnodd cyhoeddus sy'n hygyrch i bawb am ein bod yn credu fod agored ac am ddim yn well na caeedig a rheoledig. Rydym yn adeiladu cynnyrch fel Firefox a Pocket i hyrwyddo dewis, tryloywder a rheolaeth.