Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Mae angen eich doniau ar gyfer gwell rhyngrwyd

Mae Mozilla yn sefydliad nid-er-elw sy'n gweithio i sicrhau bod y rhyngrwyd yn agored ac yn groesawgar i bawb. Mae angen eich help arnom ni. Trwy ymuno â'n cymuned, gallwch chi helpu i yrru arloesedd, gwella atebolrwydd ac ymddiriedaeth a gwneud y rhyngrwyd yn lle gwell i bawb.

Sut y gallwch chi gyfrannu…

Ein Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw sicrhau fod y rhyngrwyd yn adnodd cyhoeddus byd-eang, yn agored ac ar gael i bawb. Rhyngrwyd sy'n wir yn gosod pobl yn gyntaf, lle gall unigolion siapio'u profiadau eu hunain ac sydd wedi eu hymrymuso, yn ddiogel ac yn annibynnol.

Wedi'i wneud gan bobl angerddol fel chi

Pan fyddwch yn cyfrannu at Mozilla, rydych chi'n dod yn rhan o gymuned fyd-eang sy'n cynnwys pobl o bob cwr o'r byd sy'n credu bod gan bob un ohonom rôl i sicrhau bod y rhyngrwyd yn parhau i fod yn rym er daioni.

Rydym yn credu fod cydweithredu cymunedol yn hanfodol i greu rhyngrwyd sy'n amrywiol, yn arloesol ac yn atebol i'r bobl sydd ei angen fwyaf. P'un a oes gennych gefndir mewn technoleg, trefnu cymunedol, neu ddim ond cyfrifiadur a rhywfaint o amser rhydd, gallwch ein helpu i wneud y rhyngrwyd yn lle gwell.

Derbyn Cymorth

Mae gan Mozilla dîm ymroddedig o wirfoddolwyr i helpu gyda pha bynnag faterion y gallech fod yn eu profi.

Anawsterau gyda thudalen gwe?

Os yw'ch profiad o wefan yn wahanol rhwng porwyr yna efallai eich bod wedi darganfod mater cydnawsedd gwe. Byddem wrth ein bodd yn cael gwybod amdano!